Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dysgu caru ein hynys, yr oedd rhyw dynerwch yn y trefniant i'r nos ymdaenu dros brydferthwch Prydain cyn iddynt fyned o'i golwg. Byddai ymadael yng nghanol swynion y goleuni yn gwneyd i delyn y galon roddi miwsig ei thannau lleddfaf; eithr a'r tywyllwch o'n cwmpas, a lampau y nefoedd yn gynneu, ymagorai swyn ac eangder y greadigaeth o'n blaen, a hawddach meddwl y pryd hwnnw am a ddaw nag am a fu.

A ninnau, a'n gwynebau ar wlad o fythol haf, a gydymdeimlem a'n cyfeillion yng Nghymru oer a'r gaeaf wedi eu dal.