Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. AR Y MOR

"Dy anthem yw y storom,
A'r tonnau hyf dy gôr.
A dull ni feddi di.
—ISLWYN.

HYD yn hyn ni chawsom un ysgydwad. Ond a Chastell Hurst ar un llaw a'r Nodwyddau—rhes o greigiau tal, miniog,—ar y llaw arall, a thonnau y sianel yn rhuthro i'n cyfarfod codai a gostyngai yr Atrato, ac ymgripiai rhyw deimlad dieithr o wadn y droed i fyny. Ceisiem gerdded a methem; a chymerodd prif beiriannydd y llestr—gŵr siriol caredig o'r Ysgotland, drugaredd arnom. "Rhaid i chwi wrth bar o goesau'r môr," ebe fe, ac yn ei fraich y bum am tuag awr yn ceisio eu hennill, gan gerdded o gwmpas y dec yn frysiog.

Ciliai Lloegr o'r golwg yn gyflym. Yr oeddem yn gadael pob cysgod o'n hol yn brysur. Chwareuai tonnau bychain o'n cwmpas, a chyffelybem hwynt i waith hen ffermwr a adwaenem yn gosod ei ordd yn