esmwyth ar y post i gael bod yn sicr o'i ergyd cyn taro â holl nerth ei fraich. Yn y man clywsom sain udgorn yn ein galw i giniaw; a chan i mi feddwl fod rhai eisoes yn gwybod oddiwrth ein cerddediad mai morwr amhrofiadol oeddwn, es i barotoi ar ei chyfer gyda phob gwroldeb, er nad oedd arnom eisiau dim. Eisteddasom, a gosodwyd danteithion hyfryd iawn ger ein bron, ond yr oeddem yn y gwely, ddegau o honom, cyn naw o'r gloch, yn sal iawn, yng nghrafangau clefyd y môr, yn cysgu ac yn effro bob yn ail. Tua chanol nos codais ar fy mhenelin ac edrychais trwy y ffenestr fach gron ar gyfer y gwely. Yr oedd golwg ffyrnig ar y dyfroedd, a'r lloer yn gosod rhyw lwybr o oleuni drostynt. Ymdroent ac ymsymudent fel meddwon, a'u holl ddoethineb a ballodd. Wedi i'r llestr droi ychydig ar ei hochr, daeth gwyneb y lloer i'r golwg, ac yno y buom ynghanol ein salwch yn ceisio ei hanerch. "Os meddi di dafod, ac os wyt ti yn, gweled Morgannwg yn awr, paid a dweyd wrth neb fy mod i fan yma mewn poen, a bod hiraeth arnaf am wely mwy esmwyth na hwn." Rhedodd cwmwl drosti fel i aw-
Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/21
Gwedd