Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grymu nad oedd dydd i adrodd yr hyn a welodd ar dir a môr wedi gwawrio eto. Bore drannoeth 'doedd dim ond y môr mawr llydan yn y golwg; ac yr oedd ei donn yn frigwyn a'i wyneb yn grych. Ciliodd ein salwch, a gallem fwynhau yr eangder ag enaid iach heb gorff sal yn bwysau wrth ei godreu.

Codi wnaeth y gwynt am ddyddiau. Nos Sadwrn a'r Sabboth yr oedd yn chwythu storom enbyd, a rholiai y llong yn drwm o ochr i ochr. Rhedai ein heiddo ar draws y cabin fel pe buasai ysbryd y corwynt wedi eu meddiannu. Codai y môr yn fynyddoedd, a chreai ddyffrynoedd wedyn ynddo ei hun. Lluniai y gwyntoedd fryniau fel pe buasai rhyw bwerau anhywaeth, ynfyd, wedi eu gollwng yn rhydd ar y môr mawr; a chwelid hwynt yn llwch gan anadliad arall. Tua chanol dydd ymddisgleiriai yr haul, a gwisgai y donn enfys bychan yn addurn ar ei phen cyn disgyn yn ol i'w gwely.

Sabboth o ymborthi ar ryfeddodau y Crewr mawr ar lwybrau dieithr i mi oedd hwn. Yr oedd yr hin yn rhy arw i ni gael gwasanaeth crefyddol gyda'n gilydd. Cef-