Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ais dipyn o gymdeithas y saint er hynny. Buom yn ymddiddan yn hir a pherson Eglwys Loegr am fywyd y morwr, a dywedodd wrthym nad oedd un Sabboth yn myned heibio nad oedd yn cofio yn ei weddi am y rhai oedd yn gwneyd eu gorchwyl yn y dyfroedd mawrion. Meddyliasom am yr estyll ar ffrynt orielau capelau min y môr yn fy ngwlad a'r apel dyner arnynt "Cofiwch y morwyr." Darllenasom glasuron yr Ysgrythyr ar y môr; a chanwyd pennill Pantycelyn,—

"Mae'r iachawdwriaeth fel y môr,
Yn chwyddo fyth i'r lan";

ac eiddo David Williams, Llandilo Fach,

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,"

gyda chymaint o hwyl ag a allem godi.

Wrth chwilio llyfr emynau ein cyfundeb, ni chawsom bennawd cymwys i forwyr, a rhaid oedd troi i gyfrol Dyfed am emynnau i rai a ddisgynnant mewn llongau i'r môr. Dyma hwy. Buont yn foddion gras ar y Sul cyntaf i mi ar For y Werydd,—