Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar brydnawn Mawrth, Rhagfyr 15, a ni ddwy fil o filldiroedd o gyrraedd pen ein taith, teghaodd yr hin a llonyddodd y môr. Dydd Iau yr oedd yr hinsawdd fel Mehefin Cymru. Y bore hwn dychrynwyd ni tuag unarddeg o'r gloch. Chwibanodd yr hwter yn sydyn; a rhuthrai y morwyr a nifer o'r swyddogion at y badau; ond deallasom mai ymarfer yr oeddent ar gyfer perygl trwy dân neu ddrylliad. Gwyddai pob un y fan yr oedd i fod pe bai galwad am i ni adael y llong ar fyrr rybudd; ac nis gallasem lai na bod yn ddiolchgar am ddarpariaeth o'r fath. Eithr ar yr un pryd gobeithiem na fyddai y gwaith hwn yn myned ddim pellach nag ymarferiad byth ar y llong hon.

Gwelsom bysg hedegog y prydnawn hwn, a disgynnodd un o honynt ar y dec. O'n hol am oriau y dyddiau hyn dilynid ni gan haid anferth o for foch. Llament o donn i donn, ac ymddanghosent fel am gyrraedd yr hafan o'n blaen.

Yr oedd ein hail Sabboth ar y Werydd yn ddydd braf, a phenderfynasom ei dreulio ar ochr yr adgyfodiad i fedd Gwaredwr byd. Gadawsom ein gwely yn blygeiniol, yr oedd ynnom awydd