Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am fod mewn agwedd adolgar ar yr adeg y byddai saint Cymru yn esgyn mynydd Duw. Er mwyn cydymgrymu a hwynt yn eu hodfa ddeg o'r gloch, rhaid oedd i ni fod yn effro am chwarter wedi chwech; oherwydd yr oedd ein cloc, gan ddilyn gyrfa yr haul, dair awr a thri chwarter ar ol amser ein gwlad ni y Sul hwnnw. Bore bendigedig oedd hwn. Gorweddai y môr lonydded a phalmant; adlewyrchai lun pob cwmwl gwyn, a chwareuai y pysgod o'n cwmpas. Am hanner awr wedi deg dyma'r gloch yn ein galw i'r gwasanaeth crefyddol. Cynhelid ef yn yr ystafell fwyaf ar yr Atrato. Ar ben y bwrdd safai y capten, ac o'i flaen y prif swyddogion.

Yr oedd pob un o honnt yn ei wisg briodol i'w swydd. Y tu ol safai nifer o'r morwyr cyffredin, a ninnau y teithwyr a eisteddem i gyfeiriad dwy ystlys y llestr. Canwyd i ddechreu yr emyn a gyfieithiwyd mor fendigedig gan Dafydd Jones o Gaio,—

"Mae gwlad o wynfyd pur heb haint,
Byth yno y teyrnasa'r saint."

Darllennodd y capten amryw Psalmau a gweddiau o'r Llyfr Gweddi Gyffredin gyda