Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer o eneiniad. Y pedwerydd Sul yn Adfent yn ol calendar yr eglwys oedd hwn, a swn dyfodiad yr Arglwydd oedd yn y geiriau. Hyder cryf a geisiem i gredu ein bod eisoes yn ei adnabod, fel pan ddelai ni fyddai dim yn ddieithr ynddo i ni. Wedi canu,-

"Holy Father, in Thy mercy
Hear our anxious prayer,
Keep our loved ones, now far absent,
"Neath Thy care,"

diweddodd y gwasanaeth, ac aeth pawb ati i dreulio y dydd fel y gwelai yn dda. Ar ganol y Werydd croesir caeau mawr o wymon, neu wyg y môr. Pan ddaeth Christopher Columbus a'i longau i'w cymydogaeth cododd gwrthryfel enbyd, gan y credai y morwyr fod yno greigiau cuddiedig. Ni welsant wymon erioed ond ar lan neu ar graig, a dyma yr unig fan ar y moroedd y ceir y llysiau hyn yn tyfu ar wyneb dyfroedd, a rhai milltiroedd o ddyfnder iddynt. Gorweddant yno yn y Sargossa Sea rhwng rhediadau dwfr yr Atlantic; a phleser mawr a gawsom wrth daflu bach i bysgota peth o hono. Y mae gan y morwr draddodiad prydferth iawn