Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am y gwymon hyn. Oesoedd yn ol safai cyfandir ar y rhan yma o'r moroedd. Suddodd i lawr o dan ryw gynhyrfiad, ac erys y llysiau bach oedd yn tyfu ar ei lan i ddangos man ei fedd yn y dyfnder. Prydferth iawn! Arhosant fel i ddisgwyl am ei ddyfodiad yn ol eto.

Nid oes llythyrgludydd yn cyrraedd o unman ar y weilgi eang. Ar lan y môr, ac yn y ffynhonnau, yn ystod gwyliau yr haf, dyfodiad hwnnw a chyrhaeddiad y newyddiadur ydyw rhai o raniadau pwysicaf amser. Edrychir ymlaen at ganol dydd gyda dyddordeb dwfn ar bob llong. Cymerir y mesuriadau am ddeuddeg o'r gloch, a gosodir i fyny nifer y milldiroedd a redwyd yn ystod pedair awr ar hugain. Ar fap y fordaith, peth cyffrous oedd sylwi ar y seren fach a ddynodai y llong yn symud yn nes nes bob dydd i ben y daith.

Yr oedd y cwmni yn ddifyr. Tarawem ar rywun newydd o hyd. Cawsom oriau gyda'r peirianwyr ym mherfeddion y llestr; a cheisiasom fyned i mewn i gyfrinion y peiriannau. I ni o wlad y glo nid anyddorol clywed fod y liner hon yn llosgi triugain a deg o dunelli o lo bob dydd, a bod owns o lo yn gallu cario tunell am bell-