Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

der o filltir ar y dŵr. Elai rhai allan i chwilio am orchids; ac wedi oriau o ymddiddan ar hoff flodau Mr. Chamberlain teimlem ein bod mewn byd newydd. Ar brydiau byddem yng nghanol dadl ar gaeth fasnach a gwareiddiad; a phrydiau ereill yn hela creaduriaid ysglyfaethus yng nghanolbarth Affrig. Rhaid oedd darllen pob llyfr a ddaethai i'n llaw ar y wlad yr oedd ein gwyneb arni, a hedai yr amser heibio fel chwedl. Yn ein mysg yr oedd nifer o Ddaniaid ar eu ffordd yng ngwasanaeth llywodraeth Denmark i ynys Santa Cruz. Wedi ymddiddan llawer â hwynt, digwyddasom ofyn iddynt ryw ddiwrnod eu barn am Lundain. Dywedasant am yr hyn a welsant. Buont o flaen y Senedd-dai, yn Westminster Abbey, ar bont Twr Llundain, ac yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul. "Gwelsom," meddai un o honynt, "golofn Nelson yn Trafalgar Square, ac arni yr enw Copenhagen." Cofiais am Nelson yn gosod y gwydr wrth ei lygad dall ac yn tanio o'i lynges ar y dref honno yn Denmark; a chredwn fod y Daniaid gwladgarol yn teimlo rhyw gymaint wrth weled coffad am y frwydr ymysg dewrion actau Nelson ar y golofn.