Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond cofiais beth arall, ac ebwn wrthynt,-"Y mae y tro yna ymhell iawn yn ol; chwi roisoch frenhines i ni wedi hynny, ac y mae yn un o oreuon byd." Mewn tarawiad tynasant eu hetiau, ac yr oedd eu gwen siriol yn dangos fod i'r frenhines Alexandra le cynnes yn y wlad a'i magodd yn ogystal a'r wlad a fabwysiadodd.

Elai cryn lawer o chwareuon diniwed yn y blaen; a thrwy bob peth rhed yr amser heibio gyda chyflymder syn ar fwrdd llong.

Ar foreu Llun, Rhag. 21, tua chwech o'r gloch gwelsom oleuadau Barbados am y tro cyntaf; ac am ugain munud wedi chwech bwriwyd yr angor. Arhosodd y peiriannau; ac wele ni yn ngolwg tir ar ol taith o 3,690 o filltiroedd. Y mae rhywbeth yn urddasol mewn llong yn myned i mewn i hafan. Rhaid i'r capten ei hun fod ar y bont yr adeg honno, ac y mae pob swyddog yn ei le; a dieithr iawn yw y teimlad feddiana ddyn pan y mae y llong wedi aros. Cyrhaeddasom yn ddiogel, a phawb oedd yn cychwyn wedi cyrraedd yn fyw. O'n cwmpas yr oedd llu o fadau a badwyr, am yr uchaf yn cynnyg eu gwasanaeth i ni. Dynion duon oeddynt bob un, a rhwng eu hapeliadau