Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

atom bwytaent gorsen siwgr. Yma a thraw mewn math o fad eisteddai nifer o fechgyn melyn groen; a cheisient ein perswadio i daflu pres i'r môr. Cawsant lawer.

Neidient ar eu pennau, a deuent a'r darn arian i fyny rhwng eu dannedd. Dywedid wrthym fod y môr yn llawn o forgwn; ac er yn ddiau fod yno lawer un o honynt yn edrych o gwmpas am damaid blasus i frecwast, daeth pob bachgen a phob ceiniog a aeth i'r dyfnder yn ol i'r bad.

Golwg ddieithr oedd ar Barbados. Yn lle derw, mahogany a'r balmwydden. welem; ac yn lle caeau o yd melyn, caeau o gorsenau siwgr, o gacao a bananas, a welem yn rhedeg i lawr i ymyl y dŵr. Nid oedd mynydd uchel yn y golwg, ac nid llwydion fel creigiau Eryri oedd y creigiau, eithr gwyn fel eira oherwydd coral oeddent.

Yn y bau safai ugeiniau o longau wrth angor; ac yr oedd yr olygfa yn un brysur anarferol. Eithr rhaid tewi. Y mae bad yn ein disgwyl, a ffwrdd a ni yn llawn. diolchgarwch i'r nefoedd a'r ddaear am roddi i ni ddyddiau mor hapus, a chwmni mor ddiddan, ar ein taith gyntaf yn groes i'r Werydd.