Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ol gweled ein heiddo ar yr agerlong Esk, yr hon oedd i fod yn gartref i ni am y pythefnos nesaf, aethom i dir. Ar y cei lle glaniasom yr oedd torf o negroaid a golwg hapus, hunanfoddus neillduol arnynt; ac yn gorchymyn iddynt i wneyd ffordd i ni yr oedd dau heddgeidwaid croenddu. Aethom i fyny drwy heol gul nes cyrraedd Trafalgar Square, ac yno y gwelsom golofn goffa yr Arglwydd Nelson. Nid oedd dim i awgrymu mai yn Llundain mewn lle o'r un enw yr oeddem; oherwydd dynion duon troednoeth oedd yn myned heibio, a phasiodd llwyth cert o gorsenau siwgr ni pan oeddym yn darllen argraff y golofn.

Y mae yr ynys yn un boblog iawn. Ei hyd yw un filltir ar hugain, a'i lled yn bedair milltir ar ddeg. Y mae ei phoblogaeth tua 200,000 o'r rhai y mae 15,000 yn wyn eu croen; 50,000 yn wineuddu neu liw copr; 135,000 yn negroaid duon. Hanna yr hanner can mil o'r Carib-Indiaid y wlad a'r Indiaid a werthwyd i'r ynys fel caethion; ac y mae eu gwynebau yn harddach nag eiddo y negro. Sylwasom fod y gwragedd a'r merched yn hoff iawn o gario pethau ar eu pennau, a