Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cherddent mor syth a'r saeth. Yn wir, gwelsom ddynes yn cario potel fechan ar ei phen ac yn siarad fel llifeiriant ar yr un pryd; ond cawn ddychwelyd at y negro eto.

Ar yr ynys hon teimlem fod pob modfedd yn hanesyddol; dyma un o'r mannau y dangosodd y Spaniaid greulondeb dychrynllyd wrth ddifodi yr Indiaid yn yr unfed ganrif ar bymtheg; yma y tywalltwyd gwaed lawer yn yr ail ganrif ar bymtheg, a'r ynys hon fu yn gychwynfa i lawer gornest waedlyd rhwng y Ffrancwr a'r Sais. Danfonodd Iarll Marlborough, wedi iddo glywed pethau ffafriol am Barbados, ddwy long allan i gymeryd meddiant o'r ynys yn enw Iago y Cyntaf, brenin Lloegr; a chyrhaeddodd un o honynt o dan gadbenaeth Henry Powell yn 1626. Nid oedd trigolion arni; a chan nad oedd brennau na llysiau yn dwyn ffrwyth yn tyfu yno lledodd Powell ei hwyliau a mordwyodd i Essequibo, lle y cafodd hadau a choed, a pherswadiodd 40 o Arrawackiaid i ddychwelyd gydag ef i Barbados i ddysgu y newydd-ddyfodiaid sut i dyfu defnyddiau bwyd. Addawyd iddynt y cawsent ddychwelyd mewn dwy