Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynedd, ac y cawsent werth hanner can punt o fwyeill, ceibiau, drychau, a gleiniau. Ond ni chawsant ddim yn ol yr amod. Cadwyd hwynt fel caethion.

Rhoddwyd yr ynys o dan warant freninol i Iarll Carlisle gan Iago'r Cyntaf, a chadarnhawyd hyn gan Siarl y Cyntaf. Bu llawer o wrthryfela yn canlyn hyn; a gwnaethpwyd y baradwys hon ar y môr yn fangre waedlyd.

Yn adeg y Rhyfel Cartrefol ymfudodd llawer o Saeson yno; ac yn adeg yr helynt gynyrchwyd gan Dduc Mynwy, alltudiwyd llawer i'r ynys, ac yma y buont weddill eu hoes, a'u bywyd heb fod yn llawer gwell nag eiddo y caethwas. Yma hefyd y danfonodd Cromwell lawer o Wyddelod a barent boen iddo.

Pan oedd Napoleon yn anterth ei rwysg yn nechreu y ganrif o'r blaen, aeth Comodôr Hood allan o Barbados ym Mehefin 1803 a llynges gref o dan ei arweiniad ymosododd ar y tiriogaethau Ffrengig ag Is-Ellmynaidd; ac enillodd St. Lucia, Tobago, Demerara, a Berbice. Danfonodd ymerawdwr Ffrainc ddwy lynges arall allan a dechreuasant ysgubo y moroedd; eithr gorchymynodd Lloegr