Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Admiral Cochrane allan yn Ebrill 1805, a chyrhaeddodd Arglwydd Nelson hefyd, yn y Victory i Barbados ym Mehefin 1805. Yn y wlad hon y tarawyd ergydion cyntaf y rhyfel a orffennodd ym muddugoliaeth fawr Trafalgar yn Hydref yr un flwyddyn. Ar lwybr fel yna—llwybr y bu hanes yn cael ei nyddu arno gan oesoedd a fu y cawsom ein hunain; ac nis gallem ei deimlo yn ddim ond dyddorol.

Buom yn Bridgetown bedair gwaith. Bu ein arhosiad am ran o ddiwrnod ar ddechreu ein taith, am ysbaid gyffelyb ar ei diwedd, ac o'r Sadwrn i'r Llun ddwy waith. Arosem mewn pentref o'r enw Hastings, ac yno y daethum i gyfarfyddiad a'r pryf poenus hwnnw y mosquito, sydd a'i frath yn rhoddi briw mor flin. Nid wyf yn sicr i mi weled un o honynt yn fyw, eithr clywais ei swn ddegau o weithiau wrth droi yn anesmwyth ar fy ngwely. Gosodir rhwyd uwchben y lle fwriedir i ddyn gysgu er cadw y gelyn i ffwrdd, ond yr oedd yno o'r blaen neu aeth o dan y rhwyd yr un pryd a minnau. Yr arwydd o ymosodiad y mosquitoes yw swn, megis sain udgorn bychan. Clywais ef a tharewais yn y tywyllwch yn y cyfeiriad