Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ba un y daeth; ond hollol ofer fu yr amddiffyniad, oherwydd pan edrychais fy hunan mewn drych gyda gwawr y bore, gwelwn ol eu buddugoliaeth ar fy ngwynepryd clwyfedig.

Yr oedd y gwres yn fawr iawn hyd ostwng haul; ac yr oedd y gwlith yn drwm iawn gyda'r nos. Yr oedd mor drwm ar rai o'r ynysoedd fel yr oedd yn beryglus i ni fyned allan heb ofalu gosod mwy o'n cwmpas nag yn ystod y dydd.

Yma y gwelsom adar y si (humming birds), a elwir felly oherwydd y swn a wnant gyda'u hadenydd. Y maent o liwiau tlws odiaeth, a phan y disgynnent ar flodau heirdd y cloddiau i dynnu mêl, fel y gwna ein gwenynen ni, teimlem fod yno gystadleuaeth mewn prydferthwch rhwng creaduriaid yr Hwn a greodd bob dim er ei ogoniant.

Ni chlywsom ddim byd mwy swynol na swn brogaod a chwilod ddeuent allan gyda'r tywyllwch. Yr oedd yn debyg i swn clychau gyrr o ddefaid ar y cyfandir; ac er y gwres, ac er cael ein poeni gan y pryf, yr oedd y fath esmwythyd yng ngherddoriaeth y chwilod a'r ymlusgiaid fel nad hawdd peidio cysgu. Toddai