nodau y ddau i'w gilydd; a chynganeddai ysbryd dyn a'i amgylchoedd nes y gallai roddi hun i'w amrant.
Elem o'r dref i'n llety mewn tram dau geffyl gydag ymyl y môr. Ar ein haswy yr oedd catrotty y llywodraeth Brydeinig, ac yno yr oedd gwyr duon a gwynion yn dwyn arfau. Ar ganol y dref hefyd, saif y Senedd-dy, y llythyrdy, a swyddfeydd ereill y Llywodraeth.
Y mae deddfwriaeth y wlad yn gynhwysedig o Lywiadwr, cadarnhad yr hwn sydd angenrheidiol i bob mesur a phenderfyniad; y Cynhulldy, cynwysedig o bedwar aelod ar hugain, y rhai a etholir gan y bobl; a'r Cynghor Llywodraethol o naw aelod, a etholir gan y Goron. Derbynia crefydd symiau mawrion o'r drysorfa wladol. Telir cyflogau yr esgob ac offeiriaid yr Eglwys Loegr, a sicrheir tai iddynt. Derbynia y Wesleyaid £700 yn flynyddol o'r un ffynhonnell. Ca y Morafiaid £400, a'r Pabyddion £50.
Ni thyf y ddaear ddim cystal a chorsenau siwgr. Y mae 35,000 o aceri o ddaear dan y cnwd hwn; ac anfonir allan o'r ynys fechan hon i'w werthu 46,145 o dunelli o siwgr, ynghyda thros dair mil-