iwn o alwyni o driagl, ar gyfartaledd yn flynyddol. Yn yr hen ddyddiau, pan oedd y gwledydd hyn yn llwyddiannus ddiarhebol ac yn dra chyfoethog, siwgr oedd sylfaen eu bodolaeth; eithr pan. ddechreuodd gwledydd Ewrop ag estyn rhoddion i'r rhai a wnaent siwgr o fetys (beet) aeth y corsenau yn is eu gwerth yn y farchnad, a chymylwyd llwyddiant yr ynysoedd. Yn 1898 rhoddodd y Llywodraeth Brydeinig fod i Swyddogaeth Amaethyddol ar gyfer India'r Gorllewin. Cymro twymgalon, genedigol o gymydogaeth Abertawe, sef Syr Daniel Morris, K.C.M.G., D.Sc., yw y Dirprwywr Ymerhodrol ynglyn âg amaethyddiaeth y wlad. Triga yn Barbados, ac o dan ei arolygiaeth gwneir arbrofion yn nhyfiant gwahanol gnydau a ffrwythau trwy yr ynysoedd. Ac y mae gobeithion y dyfodol trwy yr holl wlad yn canolbwyntio i raddau pell ar ymdrechion y swyddogaeth ar ba un y mae efe yn ben.
Treuliasom rai oriau difyr gyda Syr Daniel. Siaradai Gymraeg yn llithrig; a choffaodd gyda theimlad am ei hen athraw yn yr Ysgol Sul. Rhedai y ffordd at ei blas drwy ganol coedwig o fahogany. O