Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwmpas y lawnt yr oedd blodau hardded a'r enfys; a rhwng dail y coed gwelem adar o bob lliw. Aeth a ni i ystafell y storm. Pan ruthra y corwynt ar yr ynys yn Awst a Medi, pan blyg y coed fel brwyn o flaen ei ymosodiad, a phan nad oes dŷ yn ddiberygl, aiff y teulu i'r ystafell hon a'i nen gadarn a'i mur trwchus, ac yno y maent yn berffaith ddiogel. Cawsom gwpanaid o de gydag ef—te a dyfodd ef ei hun, ac ar ganol ein mwynhad o hono chwalodd ddarn o fara brith ar gledr ei law, a chwibanodd. Er ein syndod dyma ddegau o geneu-goegiaid (lizards) yn rhedeg ato o'r llwyni o gwmpas, ac yn cymeryd bwyd o'i law. Teimlem awydd i wneyd yr hyn a welsom ambell ddynes yn wneyd pan welai lygoden—sef neidio i ben y gadair. Yr oeddynt yn ddiniwed hollol, meddai Syr Daniel Morris; eithr teimlem fod eu lle yn well na'u cwmni, oherwydd onid oes hen elyniaeth rhwng teulu y sarff a'n teulu ni?