Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV. YNYSOEDD Y GOGLEDD.

Ac yno am oesoedd y buont yn huno,
Mor dawel a baban heb gynwrf na chyffro;
O'r diwedd y nwyon a ddrylliodd y muriau,
Ac yn eu digofaint rhwygasant gadwynau."
—GLAN CUNLLO.

A HI yn hwyrhau ar Rag. 21ain, gadawai y llongau Solent, Eden, ac Esk—y tair yn perthyn i'r un linell —eu hangorfa yn Barbadoes. Yr oedd un a'i bow ar British Guiana; yr oedd y llall yn myned cyn belled a Venezuela; ac yr oeddym ninnau ar yr Esk yn hwylio i'r Gogledd. Dirybudd a sydyn y deuai y tywyllwch ar ol ychydig funudau o gyfnos. Nid oedd yno ar y mor gesail mynydd i'r goleuni lechu am yspaid ferr, ac nid oedd ganddo orwelau uchel i redeg drostynt.

Bore drannoeth, gyda'r wawr, yr oedd ynys St. Lucia ar y dde; a dyma'r olwg gyntaf i ni ar fynydd tanllyd. O fin y môr esgynnai dau fynydd yn syth fel dau