gawr i fro y cymylau—i uchder o 2,700 o droedfeddi. Gelwid hwy y Pitons. O'r tu ol iddynt yr oedd mynydd mwy—Souffriere, a elwid felly gan y Ffrancod o herwydd fod ei grombil yn llawn mygfaen, neu frwmstan. Ar ei lechweddau tarddai ffynhonnau poethion, a dywedai brodor o'r darn yma o St. Lucia wrthym mai yr anhawsder mawr yno oedd cael digon o fwyd gan mor iach oedd y wlad. Yr oedd rhywbeth hudoliaethus yng ngwyrddlesni y caeau o dan belydrau haul y bore; a'r cyfan yn cael eu hamgylchu gan fôr du—las oedd yma a thraw yn ewynnu i ddangos fod y Werydd y, tu ol yn gynhyrfus. Ni wyddis fod neb wedi dringo y serthaf o'r ddau fynydd erioed; eithr clywsom dra— ddodiad fod rhai o forwyr Admiral Rod— ney wedi dringo ei ochr unwaith, ac na ddychwelodd yr un o honynt yn fyw gan fod y lle yn heidio gan nadroedd—y fer- de-lance y mwyaf gwenwynllyd o holl deulu y llwch. Un gymharol fechan ydyw y neidr hon, a'i gelyn anghymodlawn yw y cribo-neidr arall nad ydyw yn gwenwyno ei saeth. Y mae hon yn ddu ei lliw ac o chwech i wyth troedfedd o hyd; a phan ddaw i mewn i dai y wlad ni ddychrynir rhagddi.