Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyrhaeddasom borthladd Castries erbyn ein boreubryd. Dyma Gibraltar India'r Gorllewin; ac a ni yn myned i mewn yr oedd y milwyr Prydeinig yn ymarfer gyda'r gynnau mawr. Ni welsom yr un, ond clywsom eu swn byddarol. Rhuent yn y creigiau o gwmpas. Taflai craig arall y swn yn ol; ac yr oedd gennym ryw syniad am gynddaredd elfennau rhyfel pan ollyngid hwynt yn rhydd; ac wrth eu clywed dechreuodd rhai o'n cyd-deithwyr adrodd helyntion y dyddiau gynt yn ymyl St. Lucia. Gelwir yr ynys "y tir du a gwaedlyd," oherwydd i'w daear yfed cymaint o waed Ffrainc a Lloegr. Bwysiced oedd yr ynys i'r ddwy wlad fel y bu yn fater gelyniaeth a brwydr am wyth ugain o flynyddoedd.

Ymsefydlodd nifer o Saeson ar yr ynys yn 1650; a gyrrwyd hwynt oddi yno gan yr Indiaid mewn llai na blwyddyn. Dyma faes gwrhydri milwrol Syr John Moore arwr Corunna; Syr Ralph Abercrombie; Admiral Rodney—colofn i'r hwn geir heb fod ymhell o Lanymynech yn ymyl Clawdd Offa; a Count de Grasse y Ffrancwr.

O flaen harbwr Castries, o'r tu ol i'r dref, y mae bryn bychan a elwir Morne