Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fortune. Yn 1803, ar y mynydd hwn yr ymladdwyd y frwydr olaf yn y wlad. Glaniodd Commodôr Hood ar yr ynys, a gyrrodd y Ffrancod o'u cuddfeydd â blaen y bidog; ac o'r dydd hwnnw y mae St. Lucia yn un o drefedigaethau Prydain. Cymerasom lo ar ein bwrdd yma. Cerrid ef mewn basgedau gan y negroaid—yn ddyn a dynes, a rhyfeddol oedd y twrw a wnaethant wrth gyflawni y gorchwyl. Siaradent gymysgedd o Ffrancaeg a Saesneg: a siaradai pob un o honynt fel pe buasent mewn natur ddrwg. Eto pobl dirion, hawdd eu boddio, oeddynt. Gwelsom hwynt yn mwynhau eu hunain a ni yn dychwelyd ar ddydd Calan. Cerddent yr ystrydoedd, curent dabyrddau, dawnsient, a gwnaent yr ystumiau mwyaf digrifol. Nid oedd eu hofferynau cerdd o ddefnydd drutach nag alcan; a baril a darn o groen un pen iddo a wasanaethai fel tabwrdd. Fel hyn y croesawent flwyddyn newydd ac wrth ddweyd eu bod yn hapus iawn dywedwn y peth goraf a fedrwn ddweyd am danynt.

Yn y dref y mae Eglwys Gadeiriol orwych berthynol i'r Pabyddion; ac i'r ffydd honno y perthyna y mwyafrif o'r trigolion. Gan fod gennym oriau i aros, cyf-