Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

logasom gerbyd, ac aethom allan i'r wlad, a gwelsom berllannau o oranges; ac aceri lawer yn dwyn cocoa a choffi. Yma a thraw ar fin y ffordd gwelem gabanod tô dail oedd yn ein adgofio am fythynod tô gwellt Cymru. O'n cwmpas chwareuai plant duon troed noeth; ac o'n blaen yr oedd coedydd ffrwythau—y breadfruit, y banana, mango, lemon, &c.

Mordwyasom ar ol cael digon o lo, a chwblhau yr ymdrafodaeth â'r llythyrdy; a thua thri o'r gloch cawsom ein hunain y tuallan i ddinas Fort de France, Martinique, ynys berthynol i Ffrainc. Ar y dde, ar ein ffordd i fyny, pasiwyd Diamond Rock, darn o graig yn codi yn syth o'r dyfroedd. Y mae yng ngolwg Martinique; ac yn adeg rhyfeloedd Rodney gosododd Syr Thomas Hood fyddin fechan arno, ac o goryn y graig chwifiai baner Prydain yng ngwyneb y Ffrancod; a thaflai y Saeson gynnwys eu magnelau ar holl longau y gelyn yn y moroedd oddiamgylch. Gwelsant amser caled, a newyn a'u gorfododd i ddodi eu harfau i lawr. Gosodwyd y graig hon i lawr ar lyfrau y llynges Brydeinig fel "His British Majesty's Sloop-of-War Diamond Rock," yn ystod y rhyfel hwn. Ar greigiau ar fin