Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y môr ym Martinique, gwelsom lawer o greirgelloedd, a chroes fechan ar ben pob un. Yma, ar nosweithiau enbyd, y daw yr offeiriaid Pabaidd i weddio ar yr Hwn rodia ar adenydd y gwynt, dros y morwyr.

Yma y ganwyd Josephine, gwraig Napoleon; ac yn St. Pierre, ar ochr orllewinol Martinique, y cymerodd y gyflafan ofnadwy le ym Mai, 1902. Taflodd y mynydd, Mont Pelee, oedd yn codi i uchder o 4,429 o droedfeddi o'r tu ol i ddinas St. Pierre,-ei gynnwys drosti, a hyrddiwyd yn ymyl deugain mil o eneidiau i dragwyddoldeb ar darawiad amrant.

Hon oedd prif ddinas y wlad. Yr oedd yn ddinas hardd iawn, ac yr oedd ei bywyd yn foethus. Ac edrych arni o'r môr, a'r mynydd glas yn ei chysgodi, a'r môr o'i blaen, nid oedd bosibl cael golygfa harddach yn y Gorllewin paradwysaidd. Gorweddai y mynydd yn llonydd yn ystod ugeiniau o flynyddoedd. Nid oedd yng nghof neb o drigolion yr ynys fod tân wedi codi o hono. Yr oedd ei gopa fel cwpan; ac yn hwn gorweddai llyn o'r dŵr glasaf. I'w lan y deuai pobl St. Pierre i fwynhau golygfa o'u gwlad; ac yno y cyrchai yr ieuainc am wigwyliau yn aml aml.