Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Helaethai terfynau y ddinas, ac ni ddychmygodd neb fod y mynydd fu yn gysgod i'w thrigolion i brofi yn angau iddynt.

Yn Ebrill, 1902, clywyd swn taranau ynddo. Crynnai y ddaear ychydig, ymddyrchafai mwg o'i goryn, a chynhesai y dŵr yn y llyn. Ond ni welai neb y trychineb yn dod, nag ysbryd y pwerau tanddaearol yn gwylltio trwy yr arwyddion hyn.

Safai colofn fawr i Waredwr y byd ar y fynedfa i'r ddinas o'r môr. Canai clychau yr eglwys rybudd y foreuol a'r hwyrol weddi, a phlygai y defosiynol lin. Yn ei blaen elai y ddinas mewn drwg a da hyd Mai 3ydd. Ar y dydd hwn rhuthrai tafodau o dân allan o'r mynydd a disgynnai cawod o lwch ar y wlad. Tywyllodd y ffurfafen, a dechreuodd y bobl ofni. Drannoeth, ar y Sabboth, y Llun a'r Mawrth, disgynnai marwor tanllyd ar y wlad, a rhedodd afon o lava berwedig dros wely afon pum milltir o hyd i'r môr. Cariodd ffactri siwgr o'i blaen i'r dŵr, a phan gyfarfyddodd y ddwy elfen ddinistriol yr oedd yno swn fel chwythiad miloedd o nadroedd.

Dydd Mercher, pan gerddodd y newydd am hyn, ymdawelodd y trigolion.