Canada; eithr o'r deunaw llestr oedd yn angori yng nghysgod y mynydd y bore hwnnw, yr agerlong Roddam yn unig ddiangodd allan. Ac o'r trigolion nid arbedwyd ond un, a hwnnw yn garcharor mewn daeargell. Am iddo daro dyn gosodwyd llaw arno gan y ddeddf, ac yno yr oedd yng ngharchardy y ddinas pan gymerodd llifrithiad le. Ei enw oedd Ludger Sylbaris; a negro ydoedd o genedl. Gwaredwyd ef gan offeiriad Pabaidd ar fore Sabboth, Mai 11eg, 1902. Clywsom rai fuont ar ymweliad â'r lle yn dweyd fod y golygfeydd mewn ychydig ddyddiau ar ol y trychineb y tu hwnt i ddirnadaeth. Yn rhai o'r tai eisteddai teuluoedd o gwmpas y bwrdd yn bwyta eu boreufwyd pan ddaeth galwad angau. Lladdwyd hwynt gan arogl y brwmstan, ac eisteddent mor naturiol a phe buasent yn fyw. Yr oedd yr Esk yn cyrraedd yno y nos Iau fythgofiadwy honno; ac yr oedd ganddi mails i'w gadael ac i'w cyrchu. Ni wyddai neb o du y gogledd i ynys Martinique fod dim wedi digwydd, gan fod y wifrau tanforawl wedi eu torri.
Wedi cyrraedd cymdogaeth St. Pierre rhoddodd yr Esk yr arwyddion arferol, ond nid atebodd neb oddiar y tir. Dis-