Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynnodd yr ail swyddog yn y bâd a rhwyfwyd at y lan; ond wrth ddynesu at y tir teimlent y tywyllwch yn ofnadwy, ac nid oedd dim i'w weled ond golosg ymhob cyfeiriad. Nid oedd yno neb i dderbyn y llythyrau. Yr oeddynt oll wedi cyrraedd i wlad na fedrai daear ddanfon neges at un o'i thrigolion.

A ni yn myned heibio, gwisgai Mont Pelee gwmwl du yn goron ar ei ben; a theimlem ei lwch yn dod gyda'r awel. Wrth ddod yn ol heibio iddo, dywedai rhai y carent ei weled yn fflamio. Byddwch ddiolchgar," meddai un o'r swyddogion; "pe gwelsech ef unwaith ni byddai awydd arnoch am ei weled byth wedi hyn."

Yr ynys nesaf yw Dominica. Darganfyddodd Columbus hi ar ei ail fordaith, ar Dachwedd 3, 1493. Dydd yr Arglwydd oedd hwnnw, a dyna paham y rhoddwyd yr enw ar y wlad. Y mae yn ynys fynyddig, a phan ofynodd brenhines Spaen i Christopher Columbus fath un ydoedd, gwasgodd ddarn o bapur yn ei law a thaflodd ef i'r bwrdd. Buom ar hyd dyffryn Roseau, a gwelsom flodau yn tyfu yn wylltion ar y perthi na buasem yn alluog i'w codi o dan wydr a gwres yn ein gwlad ni. Yr oedd yr afonyad yn llawn pysgod,