Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r coedydd yn llawn adar. Pabyddion yw y mwyafrif o'r Dominiciaid, a gwelir colofnau a chroesau ar bob llaw. Dywedwyd wrthym fod yno ddelw o Grist du yn ymyl yr Eglwys Gadeiriol. Er mwyn argraffu ar feddwl y brodorion fod eu Gwaredwr a'u Brenin yn un o honynt, lliwiwyd ei groen yn ddu. Dan haul Syria dichon fod ei bryd yn dywyll, ond sicr yw nid oedd yn ddu; eto y mae Crist du Dominica yn dod a'r Imanuel yn agos iawn atynt.

Y mae caeau cotwm yr ynys yn eu blodau ar adeg ein hymweliad, ac yr oedd yn adeg cynhaeaf y lime fruit. Yr oedd cannoedd o alwyni o'u sudd yn cael eu parotoi ar gyfer Llundain.

Buom yn Guadelope. Swn Ffrancod yn cweryla o'r tuallan i'n ffenestr ddarfu ein deffro yno, a buom yn ceisio dweyd wrthynt mewn Cymraeg glân gloew am beidio aflonyddu dim ychwaneg arnom. Treuliasom oriau ar ynys Montserrat. Galwasom yn Antigua, Nevis, a St. Kitts. Cyrhaeddwyd St. Thomas ar y nos cyn Nadolig, a bwriwyd angor ynghanol porthladd naturiol y tuallan i dref Charlotte Amalie. Denmark bia'r ynys, a llywodraetha hi yn dda. Troir y carcharorion allan i lanhau y dref yn y bore; a