Prawfddarllenwyd y dudalen hon
dywedir fod Sais, yr hwn oedd wedi cadw tipyn o dwrw wedi mwynhau gwledd yn y dref ryw noson, yn gorfod gwneyd iawn am hynny drannoeth gyda'r ysgubell, ac efe yn nillad y wledd hefyd.
Bu y porthladd hwn yn farchnad bwysig i gaethion yn nyddiau y fasnach; a dyma un o orsafoedd canolbwyntiol y môr-ladron. Saif castell ar y lan, a chredir ei fod yn gartref unwaith i Henry Morgan, y Cymro a fu yn arswyd i'r moroedd hyn yn yr ail ganrif ar bymtheg. Gwnaed ef yn farchog gan Siarl II., a bu Syr Henry Morgan yn is-raglaw Jamaica.