Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V. NADOLIG YN Y TROFANNAU.

"Tra bo'r haul a'i wyneb cannaid,
Cofir Bethlehem a'i bugeiliaid;
Cofir doethion a'u doethineb,
A'r Mab bychan yn y preseb."
—NATHAN WYN.

Y NOS cyn Nadolig buom yn canu emynnau am Bethlehem a'r geni yno'n dlawd. Canai y bobl dduon oedd yn ffurfio criw yr Esk yn hyfryd iawn. Canasant Psalm cxxii. drosodd a throsodd; ac o'r lan clywem swn tabwrdd a chân y negro. Pasiodd hen long fu yn dwyn caethion o Affrica heibio i ni ar ei ffordd i Santa Cruz, gan ddwyn llythyrau a negeseuau y Llywodraeth, ac adgofiwyd ni o'r dydd y troir y cleddyfau yn sychau, a'r dydd y torrir holl folltau pres caethiwed, wrth ei gweled yn nofio yn ysgafn i'r môr agored.

Yn ein hymyl yr oedd llong ryfel fawr —y Stosch, perthynol i Germani. Ar y lan y fan draw yr oedd amddiffynfa Den-