Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mark; ond trigem mewn hedd. Y mae y Gŵr a anwyd yn ninas Dafydd yn brysur ddod a chenhedloedd y ddaear i gyd-fyw mewn heddwch a lifa fel yr afon. Bore drannoeth, pen blwydd ein Gwaredwr, a wawriodd yn deg. Canai yr aderyn oedd i fod yn rhan o'n ciniaw amser brecwast. Nid iawn ei ladd yn rhy gynnar, neu gallasai fod yn rhy aroglus i ni aros wrth yr un bwrdd ag ef.

Aethom i eglwys y wlad yn y bore, ac yr oedd dyn tebyg i'r Arglwydd Randolph Churchill yn y pulpud. Darllennodd ran o'r ail bennod o Luc yn destyn. Gallasem feddwl fod y côr yn gyflogedig. Canent yn fendigedig, ac er mai yn y Daniaeg yr elai y gwasanaeth ymlaen, profem ein bod yn addoli. Aethom oddi yno i gapel y Morafiaid, a theimlem barch calon i'r hen enwad parchus hwn wrth groesi rhiniog eu haddoldy am y tro cyntaf erioed. Negroaid oedd mwyafrif y gynulleidfa, ac yr oedd y gwasanaeth yn yr iaith Saesneg. Esgob y Morafiaid yn India'r Gorllewin oedd yn gweinyddu, a chawsom bregeth rymus ar enedigaeth yr Iesu. Uwchben y pulpud yr oedd seren aml-liw; ac yn y sêt fawr yr oedd Christmas tree yn llawn o deganau, a dywedai y cyhoeddwr y byddai