Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i bob plentyn ddeuai i wasanaeth y nos dderbyn canwyll oleuedig i ddangos fod yr Hwn a anwyd ar ddydd Nadolig yn oleuni y byd.

Drannoeth, aethom mewn badau gyda'r capten, y meddyg, a swyddogion eraill, i ran arall o'r ynys, ar ymweliad â hen wr o'r enw Monsanto, Portugiad of genedl. Trigai yn Krum Bay, y lle mwyaf unig y bum ynddo erioed. Nid oedd llochesau y Berwyn yn hafal iddo. Ar ein gwaith yn glanio daeth ef a'i feibion allan i'n cyfarfod; ac o dan y palmwydd y treuliasom un o'r dyddian mwyaf diddan. Yr oedd ei dŷ ar fath o raft. Adeiladwyd ef felly gyda'i dad am y credai y byddai yr ynys yn suddo i'r dyfnderoedd ryw ddiwrnod, gan mai coral oedd ei ddefnydd. Pa bryd bynnag y deuai yr adeg, os y deuai byth, byddai ef a'i dŷ a'i dylwyth yn gallu nofio uwchben yr adfeilion. Gwyddai yr hen frawd y cyfan am yr adar a'r gwylltfilod a'r pysgod; a bu dau o honom yn gynulleidfa astud iddo trwy y dydd. Daethom yn gyfeillion yn gymaint felly fel y darfu iddo agor i ni gyfrinion ei fynwes. Yr oedd wedi claddu ei briod; a theimlai ei ferch, ei feibion, ac yntau, ei hymadawiad yn chwerw. Bu