farw yn y bore, a chladdwyd hi gyda gostwng haul yr un dydd. Aethpwyd a'i gweddillion dros y dŵr i ymyl Charlotte Amalie; yr oedd y galarwyr—y ferch a'r tad—y tu ol yn y bad; rhwyfai y meibion; ac mewn bâd a ddilynai y cyntaf wrth raff, deuai yr arch.
O dan y coed yr huliwyd ein bwrdd, a mawr ddifyrrwch gafodd rhai wrth chware ar fath o wifren a gariai gerbyd o balmwydden i balmwydden. Y Sabboth, pregethais i gynhulleidfa o ddynion duon yng nghapel y Wesleyaid; a chodwyd angor yn y prydnawn. Mordwyasom i Puorto Rico, a chawsom ein hunain fore Llun yn ymyl San Juan, ym mhresenoldeb olion y rhyfel fu rhwng yr Yspaen a'r Unol Dalaethau.
America bia Puorto Rico, a dyddorol ydyw gweled y ddau wareiddiad—gwareiddiad yr hen berchenogion ac eiddo y newydd ochr yn ochr â'u gilydd yn San Juan. Yr oedd troliau ychen yn cludo corsennau siwgr a dybaco i mewn i'r ddinas yn arwydd o un; ac yn eu pasio gyda chyflymdra chwim yr oedd yr electric trams, yn arwyddo y gwareiddiad arall.