Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chraig wyth can troedfedd o uchder yn fur o'i gwmpas. Bu y mynydd yn rhybuddio y wlad am fisoedd yn 1811 o'i fwriad i greu galanas. Ar dir Venezuela teimlwyd daeargrynfaau yn ystod y flwyddyn honno a'r un flaenorol, ac yn Mawrth 1812 ysgydwyd dinas Caraccas yn ofnadwy. Lladdwyd deg mil fel canlyniad i'r ysgydwad; ac er fod ynys St. Vincent yn agos i bum cant o filltiroedd o Garaccas, prif ddinas Venezuela, yr oedd cysylltiad yn ddiau rhwng cynhyrfiadau tanddaearol y ddau le.

Adroddir gan Charles Kingsley am fachgen o negro oedd yn gwylio praidd ar lechwedd Souffriere ar Ebrill 12, 1812. Syrthiodd carreg yn ei ymyl, ac un arall; a meddyliodd y llanc mai rhyw fechgyn oedd yn taflu ato o'r creigiau yn uwch i fyny; a dechreuodd daflu yn ol. Eithr yn fuan clywodd swn fel rhuad taranau lawer; disgynnodd cawod o lwch, a duodd yr awyr. Y mynydd oedd yn bwrw cerrig ato, a ffodd am ei einioes.

Cyrhaeddodd y swn i Barbados, gan milltir i'r dwyrain. Yr oedd fel pe buasai dwy fyddin wedi cwrdd a'u gilydd. ar un o'r ynysoedd cyfagos, a chymaint oedd y dychryn fel y galwyd y milwyr oll