Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at eu harfau. Safai gwyliedyddion ar y traethau, a disgwylient weled hwyl y Ffrancwr gelyniaethus neu'r Yspaniad yn dod yn fygythiol dros y gorwel. Ond distawodd y twrw. Noswyliodd pobl Barbados mewn syndod ar y nos Sadwrn honno, a disgwylient am ddehongliad gyda gwawr y Sabboth; a daeth y Sabboth, ond ni ddaeth gwawr. Tarawodd pob awrlais chwech y bore, ond ni welwyd haul ac ni ddaeth goleuni. Credai y bobl fod diwedd byd a therfyn amser wedi dod, a disgwylient am yr angel i ganu cnul yr oesoedd. Disgynnai cawodydd o lwch; a theyrnasodd tywyllwch hyd dros ganol dydd. Yr awr honno daeth y gwynt o'r mor, a gwelwyd gwyneb yr haul. Yr oedd Souffriere wedi hyrddio darn o hono ei hun yn olosg dân i'r nen; a llwythwyd yr awyr â thywyllwch. Tawelodd daeargrynfâu Deheudir America, oherwydd yr oedd yr elfennau dig a drigent yn mynwes yr hen ddaear wedi cael anadlfa yn St. Vincent.

Nid oedd digwyddiad y flwyddyn 1902 yn debyg i'r hyn gymerodd le ddeng mlynedd a phedwar ugain mlynedd cyn hynny. Cadwodd y gwynt y dryghin draw o'r trefydd; ond bu y golled i eiddo