Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bywyd yn un bwysig iawn; a gwelsom ddarn o'r difrod yn llymdra rhan o'r wlad.

Wrth edrych y bore hwnnw am Souffriere dan ei niwl, teimlem barchedigaeth ofnus. Nis gallem lai nag edrych nes iddo fyned o'n golwg i'w gyfeiriad, ac nis gallem lai na diolch fod Cymru fy ngwlad heb ymweliadau trychinebau fel hyn.

Yn y prydnawn cyrhaeddasom Grenada, ac ar ein ffordd i fyny at dre Sant George trwy harbwr naturiol, disgynnai ein llygaid ar goedwigoedd a pherllanoedd ffrwythau hyfryd iawn. Yma a thraw safai palmwydden y gneuen cocoa yn driugain i driugain a deg o droedfeddi o daldra fel gwyliedydd uwchben y prydferthwch i gyd."

Ynghanol coedwig wyrddlas gwelem adeilad go fawr, wynned a'r calch; a dywedwyd wrthym mai lazaretto, sef ysbyty i wahangleifion, ydoedd. Y mae y clefyd hwn yn un cyffredin yn India'r Gorllewin; a darparai trugaredd dy uwchben y dioddefwyr ar amryw o'r yn- ysoedd.

Ar ynys Grenada ceir llawer o'r Caribiaid. Hwy ydyw hen breswylwyr y tiriogaethau hyn, a hawdd eu hadnabod,