Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel y cyfeiriasom o'r blaen, wrth eu gwynepryd.

Drannoeth yr oeddem yn Tobago-ynys a ddarganfyddwyd gan Columbus ar ei ail fordaith. Yma y daeth o hyd i fyglys gyntaf, a hi roddodd yr enw ar y ddeilen. Yma y bu "Robinson Crusoe," cymeriad adnabyddus Daniel Defoe, yn trigiannu am flynyddoedd, ac y mae ei ogof yn un o olygfeydd cywrain yr ynys. O Trinidad, ynys gyfagos, y daeth y dyn Friday, yr hwn a fu yn gymaint swcwr i Crusoe yn ei alltudiaeth.

Cawsom brofiad a allasai brofi chwerw yn y lle hwn. Dringodd dau o honom fryn gyferbyn a'r môr, ac ar ei ochr daethom o hyd i goed yn dwyn ffrwyth dieithr, teg yr olwg arno. Plygai y canghennau dano, ac yr oedd fel pe buasai yn ein cymhell i'w fwyta; eithr er fod y gwres yn fawr a'n syched yn enbyd ymatal rhag bwyta a wnaethum. Boddlonwyd ar dynnu y ffrwyth a llwytho ein llogellau; ond nid da pob peth dymunol yr olwg. Wedi cyrraedd yn ol i'r llestr dywedodd un o'r negroaid oedd yn y criw am i ni eu taflu. "Y mae gwenwyn marwol ynddynt," meddai; ac i'r dyfnder y taflasom yr oll.