Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi taith dros for digon garw cawsom ein hunain yn y Bocas—culfor yn golchi traed creigiau uchel, ysgythrog, a ffurfiai fynedfa i'r Gulf of Paria, i'r hwn y rhed yr afon Orinoco, ac ar lan yr hon y mae tref Port of Spain. Ar yr aswy yr oedd ynys Trinidad, ar y ddehau Deheudir America, ac o'n blaen nifer o ynysoedd bychain. Wrth angor yn y môr hwn tarawsom ar ddeg o longau rhyfel perthynol i'r rhan honno o lynges Prydain a elwir yn Ysgadran Gogledd America, ynghyda ysgadran y gwiblongau. Yr oedd yr olwg arnynt yn urddasol iawn. Chwifiai llumanau oddiar yr Ariadne, o dan lywyddiaeth Syr Archibald Douglas, a'r Good Hope, banerlong o dan lywyddiaeth Syr W. H. Fawkes. Rhodd Deheubarth Africa i Brydain oedd y Good Hope, ac arni yr ymwelodd Mr. Chamberlain â'r wlad honno. Yno hefyd yr oedd y Drake, Kent, Donegal, Berwick, Charybdis, &c. Mordeithient fel cynrychiolwyr y wlad hon ym Mor y Caribbean i ddangos, ni dybygem, ofal y fam wlad am ei thiriogaethau, ac i ddatguddio cryfder yr aden oedd drostynt, yn ogystal a chario allan ymarferiadau mewn undeb a'u gilydd.