Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prydferth iawn yw dull llongau o gyfarch eu gilydd, trwy ostwng a chodi y faner. Buom ninnau a'r llongau hyn yn gwneyd hynny i'n gilydd wrth basio.

Yn y môr hwn a'n llong yn aros gwelsom bysgod rhyfedd. Oherwydd fod rhyw bethau yn cael eu taflu allan o gegin y llong daeth haig fawr o bysgod cochion i fyny o'r dyfnder chwilio am fwyd; ac yn sydyn delai pysgodyn mwy i'r golwg a chiliai y cochion gyflymed ag y medrent o'r golwg. A y gwan yn ysglyfaeth i'r cryf, a'r bach i'r mawr, yn y môr ac ar dir. Y mae y "pwff-pwff," pysgodyn a chwytha ar wyneb y dyfroedd fel ager-beiriant, i'w gael tua genau yr Orinoco. Yno hefyd ceir wyau y môr, y rhai a ymddangosant yn debyg i gragenau crwn. Ynddynt gwneir ei gartref gan greadur bach cyfrwys iawn. Pan ymosodir arno, neu pan y cymerir ef i fyny â llaw, gwthia ei waywffyn drwy fur ei gastell; ac y mae ar bwynt pob un o honynt wenwyn marwol. Pa genhadaeth bwysig, tybed, roddodd y Creawdwr doeth i bysgodyn bychan fel hwn, fel y rhoddodd iddo y fath allu i amddiffyn ei hun? Nis gwn, ond rhaid fod iddo le pwysig, neu ni fu-