Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

asai castell o'r fath yn gartref mor gryf iddo. Yno hefyd y mae y morgi a'r forgath a'r mor-lyffant, creaduriaid mawr, a pherygl mawr fyddai bod yn gymdogion rhy agos iddynt; eithr wrth edrych ar lawer un o breswylwyr y dyfnderau, dywedasom gyda Dafydd-Mor lliosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb; llawn yw y ddaear o'th gyfoeth. Felly y mae y môr mawr, llydan, yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd."

Yn nhref Port of Spain, Trinidad, tarewid ni gan wyneb na welsom mohono o'r blaen yn y gwledydd hyn, sef gwyneb Indiad y dwyrain sydd wedi ei gludo yma i weithio tymor. Ymrwymant i wasanaethu am flynyddoedd penodedig yn y lle am gyflog; a dychwelant yn ol i'w genedigol wlad ar ddiwedd y tymhor a digon o dda y byd hwn gan y mwyafrif o honynt i fyw arno weddill eu hoes. Y mae gwragedd y Coolies hyn yn or-hoff o dlysau, a gwisgant rai yn eu clustiau ac yn eu ffroenau. Triga yr Indiaid hyn mewn pentrefi ar eu pennau eu hunain,