Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac nid oes ymgyfathrach rhyngddynt â'r Negroaid. Y mae ganddynt eu teml, ac addolant yn ol dull eu bro enedigol.

Yn y dref hon gwelsom y Ty Coch— Senedd-dy y wlad. Yr oedd yn adfeilion ar ol y tân ddilynodd y cynwrf yn Port of Spain ynglŷn â threth y dŵr ym Mawrth, 1903. Gresyn gweled adeilad drudfawr a hardd fel hwn yn gartref i ystlumod; yr unig breswylydd a welsom yn y lle oedd cigfran fawr, ac yr oedd hi yn brysur wrth ysglyfaeth a gawsai yn rhai o heolydd y dref.

Drannoeth, ar ol mordaith yn ystod oriau y tywyllwch gyda glannau Venezuela, wele ni yn Carupano. Gadawsom lythyrau yno; eithr ni laniasom oherwydd fod yr awdurdodau yn gofyn am dal am osod o honom droed ar eu tir. Croeswyd oddiyma i ynys Margarita—hen gynefin i ddarllenwyr gweithiau Kingsley, a glaniwyd yn ymyl tref Por la Mar. Pur gyntefig, a dweyd y lleiaf, oedd golwg pethau yn y fangre hon. Ymddibyna yn llwyr ar y pysgodfeydd perlau yn y môr cyfagos; ac adeilad perchenogion, neu y rhai a ddaliant brydles y bysgodfa, ynghyd ag eglwys, yw y prif adeiladau. Aethom i mewn i'r olaf, a di-