Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lynwyd ni yno gan offeiriad pabaidd. Yr oedd yno ffigyrau mewn cwyr o Fair y forwyn, y Gwaredwr, a Ioan y disgybl anwyl. Ni chawsom olwg ar Ioan. Tystiolaeth yr offeiriad yn unig oedd gyda ni o'i fodolaeth yno mewn delw, oherwydd yr oedd o'n golwg mewn cwpwrdd, ac nid oedd gan y gwr Rhufeinig a siaradai iaith Spaen agoriad ar y pryd iddo. Clywsom am Gromwel yn gorchymyn tynnu delwau arian o'r apostolion i lawr mewn rhyw eglwys, ac yna eu toddi, a gwneyd o honynt arian bathol, fel y gallent, megis eu Hathraw, rodio oddiamgylch gan wneuthur daioni; a meddyliasom y byddai y cwyr hwn yn ateb diben cystal pe gwneid canwyllau o hono.

A ni yn troi dros riniog yr eglwys, tynnodd yr offeiriad ei het yn foesgar, a bu yn cyhoeddi rhywbeth uwch in pennau; ac wrth ddal ambell air deallasom mai rhoddi ei fendith arnom yr ydoedd.

Gwelsom y pysgotwyr yn disgyn ac yn esgyn o'r môr, wedi eu hamgylchu gan ddillad ymsoddwyr. Yr oedd degau o fadau hwyliau ar ddarn o fôr, a megin ar fwrdd pob un, er awyru y dillad, a rhoddi modd i'r gwr oedd yn y dyfnder anadlu. Ymguddia y perl mewn cragen. Math o