Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

afiechyd ar y pysgodyn ydyw; daw yr haint i mewn a gogonedda yntau ef trwy ei guddio a gwneyd perl o hono. Ar brydiau, ceir perlyn fydd yn werth cannoedd o bunnau; a gellir brydiau eraill godi degau o gragennau heb gael ynddynt yr un perl.

Ar lannau Margarita gwelsom lawer o fflamednod ar eu haden; ac, a'r haul yn gostwng, ymddanghosent fel palmant o dân yn y pellder. Ar fin y môr safai amryw bentrefi perthynol i'r Caribiaid, ac eglur i ni oedd y ffaith fod y rhai a drigent ar yr ynys hon ymhellach yn ol mewn gwareiddiad na'u brodyr ar yr ynysoedd Prydeinig, canys nid oedd eu tai ond plethiad o goed a phridd, a thystiolaethai y badau y tuallan i'w pentrefi eu bod yn byw ar bysgod.

La Guayra, porthladd yn Venezuela, tua thair milltir ar hugain o ddinas fawr Caracas, oedd ein gorsaf nesaf. Darganfyddodd Columbus y wlad hon yn 1498; ac arhosodd yn drefedigaeth o dan lywyddiaeth Spaen hyd 1811, pan yr enillodd ei hanibyniaeth o dan arweiniad Simon Bolivar, yr hwn a elwir yn "Washington Deheubarth America." Gwlad dda odiaeth, a chyfoeth o feteloedd yn ei