Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynyddoedd, a'i daear yn ddigon bras i dyfu digon o yd i genhedloedd lawer, yw Venezuela; eithr ysgydwir hi yn awr ac yn y man gan ryfeloedd cartrefol a barlysant anturiaethau masnachol. Yr oedd yn iachau ar ol cynhyrfiad a fu yn cochi ei meusydd â gwaed ei meibion pan oeddem ni yno. Y mae yr Arlywydd Castro yn llywodraethwr cryf, ac yn filwr dewr; ac y mae tymor ei weinyddiad gyda'r goreu a welodd y wlad erioed.

Cysylltir La Guayra a Characcas gan reilffordd a osodwyd gan gwmni o Saeson; ac y mae yn un o ryfeddodau peirianyddol y byd. Cyfyd o'r môr i fryn, ac o fryn i fynydd, ar y raddfa o un droedfedd mewn wyth ar hugain, nes cyrraedd brig y mynyddoedd, ac yna disgynna at y brif ddinas.

Ar yr aswy i La Guayra saif pentref. Macuto, lle yr a y gwladwyr am newid awyr. Gwelsom Castro, yr arlywydd, ar ei ffordd yno i dreulio y Sabboth. Cyrhaeddodd yn nhren hwyr y Sadwrn, a rhuodd magnelau yr amddiffynfeydd uwchben y dref, ac un o longau rhyfel ei wlad, mewn un ergyd ar hugain, groesaw iddo.