Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y trefwyr yn dra defosiynol o doriad gwawr dydd yr Arglwydd hyd ddeg o'r gloch. Canai clych yr eglwysi droion yn ystod yr oriau, ac elai y tyrfaoedd i gyfaddef eu pechodau yn ol dull y Pabyddion; ond wedi hynny darfu holl. arwyddion Sabboth. Yr oedd ymladdfa deirw i gymeryd lle yn Caraccas; a bu llawer o ymladdfeydd ceiliogod yn y dref lle yr arhosem ni.

Lle cynnes iawn oedd y porthladd hwn, a theimlem yn wywedig hyd nes y delai awel iach o'r môr rai oriau wedi i'r haul godi. Delai a meddyginiaeth yn ei hesgyll bob bore, ac wrth deimlo ei balm dywedai y morwyr—"Y mae'r meddyg yn dod." Gostyngai y gwynt cyn canol nos, ac ymwelai drachefn â ni fel hyn yn y bore, ac adfywiai ni yn rhyfeddol. Ar ein ffordd oddiyma cawsom gwmni nifer o brif ddynion llywodraeth Venezuela. Yr oeddynt yn myned i agor doc newydd ar yr afon Orinoco. Deuent mor bell a Charupano, ac oddiyno i ben eu siwrne yr oedd ganddynt daith o ugeiniau o filltiroedd, a bwriadent ei gwneyd ar droed ac ar geffylau. Ymysg y teithwyr hyn tarawsom ar y Cadfridog Dusharme— arweinydd y chwyldroad diweddaf yn