Venezuela. Dyn byrr o gorffolaeth ydoedd, a llygad go fawr ganddo. Cawsom rywsut o hyd i ben y llinyn, ac er ei fod yn rhy ddirodres i siarad am dano ei hun, cawsom dipyn o'i hanes. Gwelodd amser enbyd wrth arwain yn y gwrthryfel. Bu yn y cyfrwy ar daith o dair mil o filltiroedd. Saethwyd ei geffyl o dano. Bu yn cuddio mewn hesg ar ymyl llyn, ac estynnai Indiad fwyd iddo ar ben corsen bamboo. Disgleiriai ei lygad wrth son am ei wlad a'i gobeithion, ac amlwg oedd ei fod yn ei charu yn angerddol, ac yn barod i aberthu popeth er ei mwyn. Ysgydwasom law yn wresog wrth ffarwelio drannoeth; ac yn ol dull y tramoriaid hyn, tynasom ein hetiau i'n gilydd.
Dydd Sadwrn, Ionawr 16eg, yr oeddem yn ol yn Barbados, a threuliasom ran o dri diwrnod ar y tir, ac nid cynt yr aethom i'r lan nag y gwelsom fod rhywbeth allan o'r cynefin yn bywiocau y lle. Yr oedd bechgyn Trinidad a Demerara yn cyfarfod yn y lle i chware criced, ac ar ddyddiau yr ornest yr oedd y masnachdai o ben i ben i dref Bridgetown yn gauedig am rai oriau bob dydd. Dyma rai o'r pethau sydd yn clymu y Trefedigaethau Prydeinig wrth eu gilydd y tu draw i'r moroedd.