Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prydain Fawr ar yr ynys, ac ymddangosai tai y lle fel yn gydwastad a'r dŵr. Bu y dref hon yn gartref i heintiau marwol; ond nid oes ynddi bellach gynifer mewn poblogaeth, oherwydd fod cannoedd o'r milwyr yn byw mewn pebyll yn awyr iach mynyddoedd y wlad.

Daeth dau weinidog caredig, perthynol i'r Bedyddwyr, i'n croesawu i dir yn Kingston, sef y Parch. W. Pratt, M.A., a'r Prifathraw James, B.A., Llywydd Coleg Duwinyddol Calabar.

Y peth cyntaf a wnaethom wedi myned allan i'r ddinas oedd agor ein llygaid mewn syndod wrth ganfod y prysurdeb, yr adeiladau gwych, a'r trams trydanol.

Lletywyd ni wrth droed y Blue Mountains, cadwen o fynyddoedd uchel sydd yn ffurfio asgwrn cefn yr ynys. Esgynnant i uchder o 7,423 o droedfeddi uwchlaw y môr; ac ymddangosai eu pinaclau fel pe cyrhaeddent i gymanfa ser y ffurfafen. Enw ein llety oedd y Constant Spring Hotel, a gwanwyn parhaol oedd i'r fangre. Yr oedd orenau aeddfed ar gangen, ac ar yr un pren gwelsom flodau hefyd. Dyma baradwys o wlad.