Yn y caeau o'n cwmpas tyfai afalau pinwydd, sinsir, a thybaco; a darparai y greadigaeth fud o'n cwmpas harddwch i'n llygaid ddisgyn arno nos a dydd. Chwareuai pryf y tân, gan neidio rhyw hanner cylch, ar ol iddi dywyllu; a gwnaent dduwch y nos yn brydferth. Ymddangosent fel pelenau bychain o dân, ond nid oeddent yn amgen na gwybed. Y mae yn y wlad hon hefyd berthynasau agos i bryf y tân. Gelwir hwynt yn bryf y llusern (lantern flies), a chariant ddwy fflam danbaid yn eu llygaid, y rhai sydd gyffelyb i ddau oleuad cerbyd. Clywsom ddywedyd am ddau Wyddel yn gorwedd ar wely yn hir ac yn methu cysgu am y poenid hwynt gan y mosquitoes; a phenderfynodd un o honynt, am na chawsai lonydd, fyned o dan y gwely, gan feddwl na ddeuai y poenwyr o hyd iddo yno. Aeth, ond erbyn cyrraedd yno yr oedd un o bryfed y llusern yno o'i flaen, a gwaeddodd ar ei frawd,—" Pat, Pat, y mae yn waeth yma. Y mae yma hen fachgen a lantern ganddo yn chwilio am ysglyfaeth."
Daliodd un o'r cwmni ysgorpion yn ymyl y llety hwn. Un fechan ydyw hi, ac nid oes llawer o gorff ganddi, ond croen